Ein Noddwyr

Beicio Mynydd ar gyfer grwpiau mawr


Yma yn BikePark Wales mae gennym ddau becyn craidd i chi ddewis ohonynt, dechreuwyr neu ganolradd. Fodd bynnag, os oes gennych rywbeth gwahanol mewn golwg, gallwn hefyd gyflwyno pecynnau pwrpasol at ddant pawb. Mae manylion allweddol pob un wedi'u nodi isod i chi ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni a gall ein tîm eich helpu i gael trefn ar bopeth.


Y Pecyn Kermit:

Mae ein pecyn lefel dechreuwyr wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n newydd i fyd beicio mynydd. Darperir popeth y byddwch chi a'ch tîm ei angen a bydd ein gwesteiwyr gyda chi a'ch grŵp bob cam o'r ffordd. Byddan nhw'n eich cyflwyno chi i'r gamp, yn rhoi awgrymiadau a chyngor sylfaenol, yn helpu pawb i gael eu gwisgo i fyny ac yn eich arwain trwy'ch taith ar y mynydd. Bydd y pecyn hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ein llwybrau gwyrdd lefel dechreuwyr i roi cyflwyniad dilys i feicio mynydd i bawb heb godi ofn ar bawb gwirion.  

Wedi'i gynnwys gyda'r pecyn hwn:

  • Gwasanaeth Cludo
  • Llogi beic
  • Llogi offer amddiffynnol 
  • Gwesteiwr grŵp
  • Bwyd a diod
  • Cwrw BPW ar ddiwedd y dydd

Maint grwpiau 12+

Pecynnau ar gael yn ystod yr wythnos yn unig

Pecyn Popty Ping:

Mae ein pecyn canolradd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn beicio mynydd o'r blaen ac sy'n edrych i archwilio ein llwybrau glas, coch ac o bosibl hyd yn oed du. Mae pob beic sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn hwn wedi'i ddewis â llaw i weddu i'n llwybrau canolradd ac uwch. 

Wedi'i gynnwys gyda'r pecyn hwn:

  • Gwasanaeth Cludo
  • Llogi beic
  • Llogi offer amddiffynnol 
  • Bwyd a diod
  • Cwrw BPW ar ddiwedd y dydd

Maint grwpiau 12+

Pecynnau ar gael yn ystod yr wythnos yn unig

Efallai na fydd gan eich tîm i gyd lefel debyg o allu, neu efallai eich bod yn edrych i ychwanegu rhywbeth arbennig at brofiad eich tîm. O farbeciw a chwrw i brofiad cwbl unigryw i grwpiau mwy na 100. Rydych chi'n breuddwydio amdano a bydd ein tîm yn eich helpu i wneud iddo ddigwydd! I drafod eich pecyn pwrpasol yn fwy manwl, cysylltwch â ni. 

Get In Touch

Enw*

Cyfeiriad e-bost*

Rhif Ffôn*

Maint y Grŵp*

Lefel Sgil Grŵp*

Oes angen llety arnoch chi?*

Dewiswch y dyddiad gofynnol*


Derbyn newyddion, cynigion arbennig a gwahoddiadau digwyddiadau!

 

Llyfr cyflym